Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid | Inquiry into Youth Work

 

YW 28

Ymateb gan : Urdd Gobaith Cymru

Response from : Urdd Gobaith Cymru

 

Cyd-destun Yr Urdd

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru yn 1922 i sicrhau cyfle, trwy gyfrwng y Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru (rhwng 8 a 25) ddatblygu’n unigolion cyflawn: a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol.

 

Heddiw mae gan yr Urdd dros 53,318 o aelodau oed 8-25 ac yn darparu ystod eang o ddarpariaeth o fewn ysgolion, y gymuned, canolfannau preswyl a theithiau tramor.  Mae’r cyfleoedd hefyd yn ymestyn at y rhai sydd heb fod yn aelod er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

Ers ei sefydlu mae gan yr Urdd berthynas gweithiol da gyda nifer helaeth o ysgolion uwchradd Cymru, 100% o ysgolion cyfrwng Cymraeg a thua 72% o ysgolion Cymru gyfan; awdurdodau lleol ac adrannau ar draws Llywodraeth Cymru. 

 

Mae Urdd Gobaith Cymru yn cynllunio’n strategol darpariaeth gwasanaethau ieuenctid, digwyddiadau celfyddydol, chwaraeon a chyfnodau preswyl cyfrwng Cymraeg i ieuenctid Cymru gyfan drwy:-

·         3 canolfan preswyl, Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd sydd yn galluogi 44,000 o blant, pobl ifanc ac oedolion aros yn flynyddol

·         Rhwydwaith o glybiau ieuenctid ar draws Cymru sydd yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr a staff

·         Rhaglenni datblygu arweinyddion ifanc ac arweinyddion y dyfodol

·         Rhwydwaith o glybiau chwaraeon

·         Gweithgareddau penodol ar gyfer pobl ifanc sydd ‘at risg’

·         Cynllun prentisiaid chwaraeon

·         Gweithgareddau awyr agored a gwobrau DofE

·         Cyfleoedd anffurfiol a heb fod yn ffurfiol i ennill sgiliau newydd a phrofiad

·         Addysg – Ategi’r Fagloriaeth a gwersi Cymraeg, PSE o fewn ysgolion

·         Gwirfoddoli – ym maes ieuenctid, dyngarol, chwaraeon, preswyl, celfyddydol

·         Cyfleoedd celfyddydol trwy Eisteddfod yr Urdd, yn lleol, sirol ac yn genedlaethol sydd yn galluogi 45,000 o bobl ifanc i ymgysylltu a’r celfyddydau

·         Teithiau tramor a rhyngwladol dyngarol

·         Gwyliau chwaraeon cenedlaethol a Gemau Cymru

·         Theatr Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru - cynhyrchiad cenedlaethol pob dwy flynedd ac sydd yn cynnal perfformiadau o amgylch Cymru

·         Gweithlu cyflogedig o staff cymwys, sydd yn cynnwys swyddogion datblygu, swyddogion cynorthwyol, swyddogion ieuenctid, swyddogion chwaraeon, ynghyd â 10,000 o wirfoddolwyr yn ymgysylltu yn rheolaidd gyda dros 44,500 o bobl ifanc dros 11 oed.

·         Cyhoeddi a gwerthu 9,351 o gylchgronau cyfrwng Cymraeg pob deufis

·         Cyfryngau cymdeithasol lle rhennir gwaith yr Urdd.  Dyma rhai enghreifftiau - Cyfrifon Trydar yr Urdd a 25,000 o ddilynwyr a #urdd2016 wedi cyrraedd 2.2 miliwn o gyfrifon Trydar a datblygwyd 2 ‘ap’ llwyddiannus.  Mae un ‘ap’ wedi ei lawr lwytho gan 20,000 o ddefnyddwyr a gwyliwyd 8,800 o glipiau fideo eleni. 

 

Daw 80% o incwm yr Urdd trwy ymdrechion masnachol a buddsoddiadau a chyfraniad economaidd canolfannau preswyl Glan-llyn, Caerdydd a Llangrannog.  Am bob £1 o arian cyhoeddus/grant a dderbynnir, mae’r Urdd yn cyfrannu £4.

 

Mudiad gwirfoddoli yw'r Urdd ac mae gan bob adran, aelwyd, cylch a rhanbarth bwyllgor o wirfoddolwyr yn cydlynu’r ddarpariaeth, codi cyllid ac yn sicrhau gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i blant a phobl ifanc.  Yn flynyddol mae cymunedau ardaloedd tair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn sefydlu pwyllgorau gwaith, paneli'r Ifanc a phwyllgorau codi arian sydd yn eu tro yn creu bwrlwm o ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg wedi eu harwain gan wirfoddolwyr.

 

Fel Corff Cenedlaethol sydd a’r gallu i ddarparu gwasanaeth ieuenctid cenedlaethol cyfrwng Cymraeg rydym o’r farn y byddai sicrhau cysondeb gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ymhob ardal yn llesol i ddatblygiad y gwasanaeth sydd ar gael ar gyfer ein pobl ifanc. Credwn fod gan yr Urdd rôl bwysig iawn wrth ddatblygu model gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg sy’n sicrhau bod person ifanc yn gallu elwa ar wasanaethau yn eu dewis iaith.

 

Yn yr ymateb hwn, rydym yn amlinellu ein barn ar y sefyllfa bresennol gan gynnwys yr hyn sydd gan Urdd Gobaith Cymru, sydd yn un o’r cyrff ieuenctid mwyaf yng Nghymru i’w gynnig i’r Llywodraeth.  Mae’r Urdd yn wasanaeth ieuenctid cyfrwng Cymraeg cenedlaethol sydd yn gweithredu yn unol â barn ac anghenion pobl ifanc gan sicrhau cydweithio a darpariaeth ymarferol drwy bartneriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. 

 

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar allu pobl ifanc i gael mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid, gan gynnwys, er enghraifft:

- lefelau’r ddarpariaeth ledled Cymru ac unrhyw amrywiadau rhanbarthol;

- materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol o bobl ifanc, er enghraifft, iaith, anabledd, natur wledig, ethnigrwydd?

 

·         Mae anghysondebau ar draws Cymru o ran darpariaeth gwasanaethau ieuenctid cyfrwng Cymraeg.  Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfraniad Gwaith Ieuenctid i’r Strategaeth Addysg Gymraeg (heb ei gyhoeddi yn swyddogol) yn cadarnhau hyn, ynghyd â phapur Tom Wylie ar ‘Ddatblygu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym Mawrth 2016.

 

·         O’r cyllid a ddaw i’r awdurdodau lleol, canran bach sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Mae natur y ddarpariaeth yn amrywio o sir i sir. 

 

·         Fel corff cenedlaethol sydd ag arbenigedd yn y Gymraeg rydym yn cysylltu â phob awdurdod lleol i drafod y ddarpariaeth a chynnig datrysiadau creadigol i gynyddu ac ychwanegu gwerth darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cydweithio gydag 16 allan o’r 22 awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ieuenctid cyfrwng Cymraeg o safon uchel.

 

·         Mae ein cytundebau a thargedau gydag awdurdodau lleol yn amrywio, ond mae ein gwaith yn profi mae'r dull mwyaf effeithiol o gynnig gwasanaeth ieuenctid Cymraeg yw i weithio mewn partneriaeth. Ond dylid cysoni'r ddarpariaeth a'r targedau yma ar draws y 22 awdurdod lleol, fel bo'r cynnig ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn gyfartal i berson ifanc ym mhob rhan o Gymru.

 

·         Mae gennym bryder am effaith y toriadau ar ddarpariaeth agored a gor-dargedu y rheiny sydd ‘at risg’ neu nad sydd mewn gwaith, hyfforddiant neu addysg (NEET).  Rydym yn teimlo bod y gwaith ‘atal’ ‘preventative’ ar ei golled oherwydd y toriadau ynghyd a darpariaeth agored sydd yn hwyliog ac yn aml bwrpas o fewn ein cymunedau.

 

Os ydych yn credu bod problemau penodol, sut y gellid eu datrys?

 

·         Mae angen cysoni'r cynnig cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc ar draws y 22 awdurdod lleol.  Mae Urdd Gobaith Cymru yn gorff o bwys a dylanwad cenedlaethol sydd â phrofiad, gallu ac arbenigedd a gallai gael rôl allweddol i ffurfioli hyn at y dyfodol.

 

·         Mae angen cynnwys y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol fel partner strategol gan barchu a chydnabod y cyfraniad wrth weithio gyda phobl ifanc.  Dylid chwilio am ddatrysiadau creadigol a newydd sydd yn debygol o effeithio yn sylweddol ar y strwythurau presennol.

 

Cwestiwn 2.  Yn eich barn chi, pa mor effeithiol yw polisi a strategaeth gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru?

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried:

- polisi a strategaeth gwaith ieuenctid penodol Llywodraeth Cymru, fel ‘y cynnig o ran Gwaith ieuenctid’; Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru; Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014 i 2018;

- cyfrifoldebau adrannau Llywodraeth Cymru ac a oes dull cydlynol ar draws adrannau i gefnogi’r broses o ddarparu gwaith ieuenctid.

 

·         Croesawn a dathlwn y ffaith fod gan Gymru strategaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol ynghyd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru tuag at waith ieuenctid gan gydnabod y cyfraniad at fywydau pobl ifanc Cymru.  Rydym am i hwn barhau a chryfhau yn y dyfodol.

 

·         Ond mae angen i’r sector weithio gyda'i gilydd ac i beidio diogelu buddiannau cyrff unigol, awdurdodau lleol a’r strwythurau presennol.

 

·         Teimlwn nad oes digon o arweinyddiaeth ar ddatblygiad gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg.

 

·         Mae’r strategaeth yn son am gynyddu’r cydweithio rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol; mae gan yr Urdd enghreifftiau gwych o gydweithio er mwyn darparu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg, ond mae angen cysoni hyn ar draws y 22 awdurdod lleol.

 

·         Lansiwyd y Siarter Gwaith Ieuenctid ym mis Mawrth eleni, rydym yn croesawu'r weledigaeth o’r hawl i bob person yng Nghymru at wasanaethau ieuenctid, ond hoffwn fwy o arweiniad ar sut fydd hyn yn cael ei wireddu a’n cyfraniad ni fel corff cenedlaethol.

 

·         Nid oes pŵer nac awdurdod gan swyddogion Llywodraeth Cymru ac felly y strategaeth genedlaethol ar atebolrwydd gwariant yr Awdurdodau lleol i ddiogelu gwariant llawn o’r RSG ar waith ieuenctid na chwaith y cyllid tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

 

Yn eich barn chi, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol/yn well o ran ei gwaith ieuenctid?

 

·         Mae angen arweinyddiaeth strategol, dryloyw ac atebol

 

·         Dylid cynnal trafodaeth strategol ar gyfeiriad a chyfraniad cyrff cenedlaethol fel yr Urdd at waith ieuenctid yng Nghymru

 

·         Mae angen i adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru fod yn fwy ymwybodol o gyfraniad mudiadau ieuenctid gwirfoddol fel Urdd Gobaith Cymru at er enghraifft, lles, iechyd, trechu tlodi, datblygu cymunedol, a’r economi

 

·         Ar yr archwiliad data mae awdurdodau lleol yn eu cwblhau yn flynyddol ar wasanaethau ieuenctid, mae angen iddynt nodi canran y ddarpariaeth a wneir gan gyrff megis yr Urdd a chydnabod a dathlu'r cyd weithio a’r partneriaethau yn gyhoeddus.

 

Cwestiwn 3- Beth yw eich barn ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys cyllid a geir drwy law awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, a’r trydydd sector

 

·         Nid oes patrwm unedig ar wariant gwaith ieuenctid na chwaith canran deilwng tuag at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Nid yw wedi ei gynllunio yn unol â strategaeth y Gymraeg.

 

·         Gwelir mwy a mwy o adnoddau yn mynd tuag at y rhai anodd i gyrraedd (cyllid ESF, Awdurdodau Lleol, YEPF) gyda’r ddarpariaeth ‘preventative' ac agored yn colli cyllid.  Mae’r ddarpariaeth agored gymysg sydd yn annog newid ymddygiad cyn ei fod yn rhy hwyr yn hynod o bwysig.  Gwelwyd hyn wrth i’r Urdd ceisio cyflwyno prosiect cyfrwng Cymraeg i WEFO.

 

·         Wrth gyllido fesul awdurdod, mae'n rhaid ystyried ffyrdd effeithiol o ariannu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg e.e. cysoni targedau, canran teg o wariant ar y Gymraeg, cynllunio yn draws ffiniol / cenedlaethol.

 

Os ydych o’r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

 

·         Dylid edrych at ffurfioli model cenedlaethol i ddarparu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg cenedlaethol

 

·         Diogelu rôl corff fel CWVYS - neu greu asiantaeth gwaith ieuenctid cenedlaethol ar gyfer y sector gyfan (statudol a gwirfoddol) lle gellid cynnal y trafodaethau a chynllunio strategol i sicrhau cynnig gwaith ieuenctid cyson i bobl ifanc ar draws Cymru.

 

Cwestiwn 4 – Yn eich barn chi, a oes unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad y dylid tynnu sylw’r Pwyllgor atynt?

(Er enghraifft: materion gweithlu; y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru; adeiladau a seilwaith; gwaith ieuenctid mewn ysgolion; materion trafnidiaeth; mynediad i dechnoleg ddigidol; ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gofrestru ac arolygu rhai lleoliadau addysg y tu allan i’r ysgol.)

 

·         Mae pryder am ganfyddiad eraill o’r datblygiadau i gofrestru gweithwyr ieuenctid, gan na fydd angen i garfan eang o’r gweithlu gwaith ieuenctid gofrestru, sef y rhai sydd â chymhwyster lefel 2 a lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid.

 

·         Mae angen parhau a chynyddu’r buddsoddiad i hyfforddi a datblygu’r gweithlu cyflogedig y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol fel y gallent gael y cyfle i ennill gradd mewn gwaith ieuenctid.  Nid yw model ariannu tymor byr gwaith ieuenctid yn diogelu ymrwymiad cyflogwyr i gyfrannu at y costau yma (yn ariannol dros gyfnod o 3 mlynedd)

 

·         Hoffwn i Lywodraeth Cymru sydd yn arwain ar wireddu Dyfodol Llwyddiannus a ddaeth o argymhellion yr Athro Donaldson i gynnwys y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol  yn y trafodaethau cynllunio yn fuan.

 

 

Cwestiwn 5 - Pe byddai’n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa argymhelliad fyddai hwnnw?

 

·        Credwn ei fod yn amserol i greu model Gwasanaethau Ieuenctid Cymraeg Cenedlaethol.

·        Sefydlu corff i gynnig arweinyddiaeth strategol i’r sector sydd a’r awdurdod i greu datrysiadau creadigol sydd wedi eu gwreiddio yng Nghymru.